Bwletin mis Hydref 2015

Ym mis Medi, cynhaliwyd agoriad hirddisgwyledig rheilffordd gororau’r Alban rhwng Caeredin a Tweedbank ar ôl 46 mlynedd o fod ynghau. Efallai bod rhai ohonoch chi wedi gweld hyn yn y newyddion, a’r cannoedd o bobl yn ciwio yn oriau mân y bore i groesawu’r trên cyntaf o Tweedbank ar 6 Medi a channoedd yn fwy yn ymgasglu i chwifio at y trên wrth iddo lenwi ar hyd yr 8 orsaf ar hyd y lein cyn y stop olaf yng Nghaeredin

Mae rheilffordd y gororau yn 30 milltir o hyd ac chafodd ei ailadeiladu gan Network Rail gyda chost o £294m a dalwyd gan Lywodraeth yr Alban. Bu angen codi neu ailwampio 140 o bontydd, gan olygu ailgyfeirio un o briffyrdd yr ardal! Bydd yna wasanaeth bob 30 munud yn ystod yr wythnos a 60 munud yw hyd y daith o Tweedbank i Gaeredin. Dywedodd Ysgrifennydd yr Alban dros isadeiledd, Keith Brown ei fod “yn gyfle i gael cyfleoedd gwaith newydd ynghyd â chysylltiadau busnes a diwydiant”. Aeth ymlaen i ddweud fod rheilffordd y gororau wedi “dod yn symbol o oes aur rheilffyrdd yn yr Alban, ac mi fydd yn dynodi cyfnod llewyrchus newydd i’r cymunedau ar hyd y lein.” Disgrifiodd Mike Catley, cadeirydd Visit Scotland yr achlysur fel “moment hanesyddol” i’r Alban. Yn ystod y mis cyntaf, fe deithiodd 125,000 o bobl ar y lein, ac amcangyfrifir y bydd miliwn yn teithio arno o fewn pum mlynedd. Mae grŵp ygyrchu Campaign for Borders Rail, a sefydlwyd yn 1999 hefyd wedi croesawu’r agoriad fel ‘un o lwyddiannau mwyaf ymgyrchoedd rheilffordd gwerin gwlad yn hanes Prydain’. Mae yna gefnogaeth gynyddol yn barod ar gyfer ymgyrch i ymestyn y lein i Hawick, ac yna i Carlisle, ar ben arall y lein wreiddiol.

Pam mae hyn i gyd yn berthnasol i ni? Mae Traws Link Cymru wedi ei ysbrydoli gan agoriad lein y gororau. Mae eu hymgyrch nhw yn dangos beth sy’n bosibl drwy feithrin cefnogaeth gymunedol yn raddol. Mae trefi ynysig gorllewin Cymru yn debyg iawn i’r melindrefi yng ngororau’r Alban. Hefyd, byddai ailagor y rheilffyrdd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin a Bangor ac Afon Wen yn rhoi mwy o botensial i Gymru gyfan gael ei chysylltu ar y cledrau mewn modd cynhwysol ac effeithiol.

Mae Traws Link Cymru wedi gwneud camau mawr hefyd. Erbyn i chi ddarllen hwn, mi fyddwn wedi bod yn ymgyrchu am dros 2 flynedd. Rydym erbyn hyn wedi casglu 11,300 o enwau ar ein deisebau ac wedi cael cefnogaeth gan gynghorau tref a chymuned ar hyd y lein, ASau ac ACau. Rydym wedi cynnal cyfarfodydd llwyddiannus a chadarnhaol yn Llambed, Tregaron, Llanybydder, Aberystwyth, Caerfyrddin, Aberaeron a Llanilar. Cafodd y mater ei drafod ar lawr siambr y Senedd ac rydym wedi cwrdd ag Edwina Hart AC, Stephen Crabb AS ac uwch weision sifil Llywodraeth Cymru. Fe arweiniodd hyn at gomisiynu astudiaeth gwmpasu ac apwyntio ymgynghorwyr arbenigol dros yr haf. Rydym yn aros yn eiddgar am eu casgliadau a byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw ddatblygiadau cyn gynted â phosibl.

Hefyd, cyn bo hir rydym yn gobeithio trefnu taith awyr mewn awyren feicro dros yr hen lein rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth i ddangos pa mor glir yw’r hen lwybr a pha mor brydferth oedd yr hen daith. Bwriadwn greu DVDs o’r daith i godi arian ar gyfer yr ymgyrch ac mae’r daith wedi creu tipyn o gynnwrf yn y cyfryngau. Ar 24 Medi, fe gynhaliom gyfarfod cyhoeddus yn Llanilar a fynychwyd gan dros 40 o bobl. Cadeiriwyd y cyfarfod gan Glyn Jones sydd hefyd yn gadeirydd ar gangen y Cambrian o Railfuture ac sy’n byw yn yr ardal. Yn ogystal â chyflwyniadau rhagorol gan Mike Walker a Geraint Blayney, fe siaradodd y cynghorydd sir Elizabeth Evans ac AC lleol Elin Jones yn gryf dros ailagor y rheilffordd. Yna, atebwyd cwestiynau gan y gynulleidfa a nodwyd rhai awgrymiadau defnyddiol cyn tynnu raffl ar ddiwedd y drafodaeth. Roedd hi’n gyfarfod croesawgar ac addawol arall a gynhaliwyd yn Gymraeg a Saesneg gyda chyfieithu effeithlon a chywir gan Heledd Jones. Fe fynychodd aelodau o TLC ffeiriau’r glas ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin ac Abertawe, gan ychwanegu’r niferoedd sydd wedi llofnodi ein deisebau’n fawr. Bwriadwn hefyd ymweld â phrifysgolion Aberystwyth ac Abertawe yn ystod y flwyddyn hefyd. Fe gyflwynodd Joanna Bond ei phroject ‘Singing the Line into Existence’ yn Amgueddfa Ceredigion ar 3 Hydref ynghyd â cherddorion ac artistiaid enwog eraill. Dyma oedd ffrwyth llafur 6 wythnos o waith estyn allan: cerdded y lein, cyfarfod â thrigolion lleol a chreu ymateb celfyddydol i beth oedd y lein yn ei olygu ac y gallai ei olygu eto i bobl. Roedd hi’n noson lwyddiannus a beiddgar iawn.

Hefyd, bu TLC yn bresennol yn ystod digwyddiad Cysylltu Carwyn gyda Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones lle gadarnhaodd ei gefnogaeth i’r egwyddor o ailagor y lein.

Os hoffech wybod mwy am yr ymgyrch, ewch i’n gwefan: www.trawslinkcymru.org.uk
Gallwch hefyd ein dilyn ni ar Twitter @TrawsLinkCymru a chwilio am ein tudalen a’n grŵp ar Facebook. Cofiwch arwyddo ein deiseb os nad ydych eisoes wedi gwneud!

Elusen yw Traws Link Cymru sy’n dibynnu ar roddion i gynnal yr ymgyrch. Mae angen rhoddion er mwyn argraffu deunyddiau hyrwyddo, llogi ystafelloedd a hyrwyddo’r ymgyrch yn gyffredinol. Mae croeso i chi wneud cyfraniad at yr achos drwy ddefnyddio’r manylion banc isod: Banc Barclays, Llanbedr Pont Steffan, Traws Link Cymru. Cod didoli 20-18-41, rhif y cyfrif 93407101