Datganiad i’r Wasg 25 Gorffennaf 2022

Ddydd Sul yma, Gorffennaf 30ain, bydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru y bu disgwyl mawr amdani yn agor yn Nhregaron yng Ngheredigion, yn dilyn dwy flynedd o absenoldeb oherwydd pandemig Covid. Mae Traws Link Cymru, grŵp Ymgyrch Rheilffyrdd Gorllewin Cymru, am fanteisio ar y cyfle hwn i ddymuno’n dda i bwyllgor trefnu’r Eisteddfod a phawb sy’n cymryd rhan ac yn cystadlu ym mhrif ddigwyddiad diwylliannol y genedl. Fodd bynnag, o ran seilwaith trafnidiaeth lleol, mae yna faterion sylweddol y mae angen mynd i’r afael â nhw, yn enwedig seilwaith ffyrdd yng nghanol Ceredigion a’i allu i ymdopi â digwyddiad a ddaw â degau o filoedd o ymwelwyr i Dregaron a’r cyffiniau.

Nid oes unrhyw fynediad cefnffordd o gwbl i’r dref, ac mae gwasanaeth bws gwennol yn gorfod cael ei ddarparu gan gwmni o Ogledd Cymru a oedd yn gyfrifol am weithrediad tebyg yn y Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst yn 2019. Mae’n eironig braidd fod Maes yr Eisteddfod wedi ei leoli ger llwybr yr hen reilffordd o Aberystwyth i Gaerfyrddin. Cafodd y lein ei chau i deithwyr ym mis Chwefror 1965, ac er 2013 mae Traws Link Cymru wedi bod yn ymgyrchu’n frwd dros ei adfer. Mae’n drasiedi nad oes darpariaeth i deithwyr rheilffordd ar gael gan y byddai hyn wedi bod yn hanfodol ar gyfer cludo pobl i Eisteddfod Tregaron.

Rydym wedi ein calonogi gan Gynllun Cyflawni Trafnidiaeth Cenedlaethol sydd newydd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, sy’n cynnwys ymrwymiad i ddatblygu’r achos dros reilffordd De Cymru i Aberystwyth erbyn 2025-2027. Yn wir, mae Eisteddfod Genedlaethol Tregaron yn amlygu y tu hwnt i unrhyw amheuaeth resymol yr angen i adfer y coridor rheilffordd gogledd-de strategol hwn. Byddai adfer y rheilffordd yn ysgogiad mawr i ddatblygiad economaidd rhanbarth Gorllewin Cymru. Byddai’n darparu mathau newydd o gyflogaeth ac felly yn annog cadw pobl ifanc yn yr ardal, a thrwy hynny yn cryfhau ein hiaith a’n diwylliant Cymreig cyfoethog a adlewyrchir mor gryf yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Yr Athro Mike Walker; Cadeirydd, Traws Link Cymru