Astudiaeth Gwmpasu

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru (£30,000) ac a gynhaliwyd gan AECOM, briff yr Astudiaeth oedd darparu Cyngor Technegol yn nodi’r materion i’w hystyried o dan Astudiaeth Ddichonoldeb lawn i ailagor rheilffordd drom rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin, a chwmpas, rhaglen a chost ar gyfer yr Astudiaeth honno. Nododd fod dros 97% o’r llwybr gwreiddiol 90km yn dal heb ei ddatblygu, gyda’r datblygiad mwyaf arwyddocaol ar ben gogleddol (Aberystwyth). Yn gyffredinol, mae’r ffurf craidd, gan gynnwys twnelau, argloddiau a phontydd, yn parhau’n gyflawn. Nododd nad y llwybr gwreiddiol fyddai’r un orau o reidrwydd, er ei fod yn cydnabod nad yw topograffeg yr ardal yn addas ar gyfer aliniadau amgen. Fodd bynnag, efallai y bydd angen rhywfaint o wyriad oddi wrth y llwybr gwreiddiol er mwyn lleihau effeithiau amgylcheddol, lleihau costau, osgoi ardaloedd cadwraeth a safleoedd o ddiddordeb gwyddonol, a denu mwy o nawdd. Byddai topograffeg y llwybr i raddau helaeth yn atal lledu’r rheilffordd i ddau drac ac felly rhagwelwyd taw rheilffordd sengl fyddai hi.

Gydag ansicrwydd ynghylch union leoliad y llwybr, dim ond cost ddangosol ar gyfer ailadeiladu’r llinell hyd at £505 miliwn (prisiau 2015) y gallai fod yn bosibl ei rhoi. Gallai costau tir a chaniatâd ychwanegu £250 miliwn arall gan ddod â chyfanswm costau’r prosiect i tua £750 miliwn. Amcangyfrifwyd y gallai Astudiaeth Ddichonoldeb lawn gostio tua £350,000.