Rheilffordd y Gororau

Mae Rheilffordd y Gororau 50km o hyd rhwng Caeredin a Tweedbank, a ailagorwyd ym mis Medi 2015, yn esiampl dda ar gyfer y rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin. Teimlwyd ei brif effeithiau yn y diwydiant twristiaeth, ond bu buddion economaidd sylweddol hefyd i’r gefnwlad uniongyrchol ac i ardal y Gororau yn ei chyfanrwydd. Nifer y teithwyr ar gyfer y flwyddyn gyntaf o weithredu (2015-16) oedd 1,267,599, bron i ddwbl y rhagolwg swyddogol pan agorwyd y rheilffordd, a chynyddodd y ffigur hwn i 1,387,819 yn yr ail flwyddyn.

Cymharodd ystadegau Monitor Asesu Economaidd Twristiaeth yr Alban (STEAM) ar gyfer rhanbarth y Gororau hanner cyntaf 2016 i’r un cyfnod y flwyddyn flaenorol, a dangosodd y rhain fod nifer y diwrnodau ymwelwyr mewn gwestai / gwelyau a brecwastau wedi codi 27%; bu cynnydd o 20% yng ngwariant ymwelwyr ar fwyd a diod; roedd gwariant ymwelwyr ar lety i fyny 17%; a chynyddodd nifer y diwrnodau yr arhosodd ymwelwyr yn y Gororau bron i 11%. Gyda’i gilydd, roedd cynnydd cyffredinol o 16% yng ngwariant ymwelwyr, ac amcangyfrif o gynnydd o 8% mewn cyflogaeth yn uniongyrchol gysylltiedig â thwristiaeth.

Nododd data o Werthusiad Blwyddyn 2 Rheilffordd y Ffin, 2018, fod 15% o’r defnyddwyr wedi symud i’r rhanbarth oherwydd y rheilffordd, a nododd 52% o’r rhai a gyfwelwyd a oedd wedi newid eu swyddi fod y rheilffordd yn ffactor allweddol. Ymhellach, amcangyfrifwyd bod tua 36,000 o deithiau car y flwyddyn yn cael eu harbed oherwydd y rheilffordd, tra bod 14,000 yn llai o deithiau bws. O’r rhai a gafodd eu cyfweld yn ystod arolwg Transport Scotland, nododd 25% na fyddent wedi ymweld â’r rhanbarth oni bai am y rheilffordd.

Mae agor rheilffordd y Gororau wedi rhoi hwb sylweddol i’r farchnad dai yn y rhanbarth, gyda nifer y gwerthiannau tai yn cynyddu hyd at 48% mewn rhai ardaloedd, tra bod 10,000 o gartrefi newydd ar fin cael eu hadeiladu ger y coridor rheilffordd. Yn ogystal, mae 150 hectar o dir ger y rheilffordd wedi’i ddynodi at ddefnydd masnachol. Yn Tweedbank, terfynfa ddeheuol y lein, mae Parc Busnes Canolog Newydd yn cael ei sefydlu ac mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer gwesty a siopau adwerthu ger yr orsaf newydd. Yn wir, cymaint yw llwyddiant Rheilffordd y Gororau wedi bod fel bod cyllid bellach wedi’i sicrhau ar gyfer Astudiaeth Ddichonoldeb (£10m gan Lywodraethau Prydain a’r Alban) i archwilio ymestyn y llinell tua’r de i gwblhau hen Lwybr Waverley drwodd i Gaerliwelydd.