Cerrig milltir pwysig yn hanes ymgyrch
Traws Link Cymru
Hydref 2013
Ffurfio
Ffurfio Traws Link Cymru yn Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion
Mawrth 2014
Dadl
Dadl yn y Senedd yng Nghaerdydd; cefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer yr ymgyrch
Mehefin 2014
Cefnogaeth
Cyfarfod gyda Network Rail yng Nghaerdydd, derbyn eu cefnogaeth
Tachwedd 2014
Polisi
Mabwysiadwyd fel polisi gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru
Tachwedd 2014
Cefnogaeth
Cefnogaeth gan Gyngor Sir Gaerfyrddin
Ionawr 2015
Cefnogaeth
Cefnogaeth gan Gyngor Sir Ceredigion
Chwefror 2015
Cyfarfod
Cyfarfod gyda Stephen Crabb AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Chwith i’r Dde: Adrian Kendon a Mike Walker (TLC), Mark Williams AS Ceredigion), Stephen Crabb, Flora McNerney (TLC), Llundain.
Mai 2015
Cyfarfod
Cyfarfod rhwng TLC a Swyddogion Llywodraeth Cymru, Caerdydd. Chwith i’r Dde. Gareth Roberts, Geraint Blayney, Flora McNerney, Mike Walker a Nigel Bird (TLC); James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru a dau swyddog Llywodraeth Cymru, Caerdydd).
Mehefin 2015
Ariannu
Clustnodi £30,000 gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Astudiaeth Gwmpasu i ailagor y rheilffordd.
Gorffennaf 2015
AECOM
Cyfarfod cyntaf rhwng TLC ac ymgynghorwyr AECOM
Rhagfyr 2015
Astudiaeth Gwmpasu
Cyhoeddi’r astudiaeth gwmpasu
Chwefror 2016
Cyfarfod
Cyfarfod i werthuso’r astudiaeth gwmpasu: cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Cyngor Sir Gaerfyrddin; Cyngor Sir Ceredigion, AECOM, Trenau Arriva Cymru, Network Rail, GWR a TLC, Aberystwyth
Ebrill 2016
Cefnogaeth
Cefnogaeth ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb llawn ym maniffestos Etholiad y Cynulliad Plaid Cymru, Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Werdd
Ebrill 2016
Cyfarfod
Cyfarfod gyda Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru. Chwith i’r Dde. Ellen ap Gwynn, Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion, Geraint Blayney, Mike Walker, Flora McNerney (TLC), Elin Jones AM, Leanne Wood, Adrian Kendon, Dylan Wilson-Lewis (TLC).
Ebrill 2016
Cyfarfod
Cyfarfod gyda Tim Farron, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Elizabeth Evans, ymgeisydd Ceredigion, John Lewis a Dylan Wilson-Lewis (TLC), Aberystwyth
Hydref 2016
Ariannu
Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ariannu astudiaeth ddichonoldeb llawn gwerth £300k i ailagor y lein. Rhoddwyd y cytundeb i Mott MacDonald.
Chwefror 2017
Cyfarfod
Cyfarfod gyda Guto Bebb AS, Is-ysgrifennydd ar gyfer for trafnidiaeth, Llundain. Chwith i’r Dde. Mark Williams AS, Ceredigion, Guto Bebb, Mike Walker, Adrian Kendon a Gareth Roberts (TLC)
Chwefror 2017
Cyfarfod
Cyfarfod yn y Senedd rhwng Traws Link Cymru a Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth. Gareth Roberts, Dylan Wilson-Lewis (TLC), Elin Jones AoS a’r Llywydd, Adrian Kendon (TLC)
Gorffennaf 2018
Cyfarfod
Cyfarfod rhwng TLC, Mott MacDonald a Thrafnidiaeth Cymru i drafod yr astudiaeth ddichonoldeb.
Medi 2018
Cyhoeddi
Cyhoeddi’r astudiaeth ddichonoldeb
Chwefror 2019
Cyfarfod
Cyfarfodydd rhwng TLC a Phlaid Cymru, Llanbedr Pont Steffan. Chwith: Ben Lake AS, Jonathan Edwards, AS, Mike Walker, Dylan Wilson-Lewis (TLC) Elin Jones AoS, Llywydd y Senedd, Adam Price AoS, arweinydd Plaid Cymru. Dde: Mike Walker, Elin Jones MS, Ben Lake AS, John Lewis, Geraint Blayney, Dylan Wilson-Lewis (TLC)
Chwefror 2019
Dadl
Denodd y ddadl yn Neuadd San Steffan ar ailagor rheilffordd Aberystwyth i Gaerfyrddin a gynullwyd gan Jonathan Edwards, AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr gefnogaeth drawsbleidiol gref.
Medi 2019
Cyflwyniad
Cyflwyniad gan TLC yng nghynhadledd blynyddol Plaid Cymru, Abertawe. Mike Walker TLC), Elin Jones AoS, Ben Lake AS, Geraint Blayney (TLC).
Medi 2020
Cyhoeddi
Cyhoeddi ‘Coridor Rheilffordd Strategol Newydd i Orllewin Cymru’ gan TLC
Hydref 2020
Cyhoeddi
Uwchlwytho ‘Coridor Rheilffordd Strategol Newydd i Orllewin Cymru’ i wefan Llywodraeth Cymru.
Mawrth 2021
Gwefan
Lawnsiad gwefan newydd Traws Link Cymru.
Gorffennaf 2021
Cyfarfod efo Jane Dodds (MS)
Meeting in Aberystwyth between Traws Link Cymru and Jane Dodds, Regional MS for Mid- and West Wales. From left to right: Jane Dodds; Adrian Kendon (TLC), Mike Walker (TLC) and Dylan Wilson-Lewis (TLC)
Tachwedd 2021
Cyfarfod efo Cefin Campbell MS a Virginia Crosbie MP
Ionawr 2022
Cyfarfod efo Sian Gwenllian MS a Hywel Williams MP
Chwefror 2022
Cyfarfod â’r Bwrdd Gweithredol yng Nghyngor Sir Caerfyrddin (Dan gadeiryddiaeth y Cynghorydd Emlyn Dole)
Mawrth 2022
Penodi Cadeirydd newydd y TLC – Yr Athro Emeritws Mike Walker
Ebrill a Mai 2022
Pren yn dychwelyd i Reilffordd y Cambrian
Mae dau drên pren arbrofol wedi cael eu rhedeg yn ddiweddar rhwng Aberystwyth a gwneithurwr pren Kronospan yn Y Waun. Roedd dwy uned diesel Dosbarth 37 yn tynnu deg tryc gwastad wedi’u llwytho â bron i 800 tunnell o bren. Mae hyn yn cyfateb i fwy na 30 o loriau pren a fyddai’n cael eu symud oddi ar ffyrdd Gorllewin Cymru.
Barnwyd bod yr arbrawf yn llwyddiant a gallai arwain at gludo rhagor o bren ar hyd y lein, cyn belled ag y gellir sefydlu’r cyfleusterau llwytho priodol ar y seidins ger gorsaf Aberystwyth.
Mae Traws Link Cymru wedi dadlau erioed y gallai pren fod yn elfen fawr o draffig nwyddau ar reilffordd newydd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin, o ystyried faint o bren sydd bellach yn barod i’w dorri ar fryniau Gorllewin Cymru.
Byddai’r manteision nid yn unig yn cynnwys llai o draul ar ffyrdd yn yr ardal gan lorïau pren â llwythi trwm, ond gostyngiad sylweddol mewn traffig cerbydau trwm a fyddai’n gwneud y ffyrdd yn fwy diogel, tra ar yr un pryd yn lleihau’r ôl troed carbon yn unol â Pholisi Llywodraeth Cymru.
Gorffennaf 2022
Cyfarfod gyda Natasha Asghar MS, Llefarydd yr Wrthblaid dros Drafnidiaeth yn y Senedd
Hydref 2022
Cyfarfod â Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros Newid yn yr Hinsawdd, a Llefarydd Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru yn y Senedd
Tachwedd 2022
Cyfarfod â Deborah Harding, Pennaeth Strategaeth Drafnidiaeth, Cynllunio a Metros, Trafnidiaeth Cymru
Mawrth 2023
Lansio Llyfr – Quiet Between Trains
ISBN: 978-1-912078-38-7

Author: David Gowan & Vernon Parry
Published: 2023 for Cymdeithas Hanes Llambed /The Lampeter History Society
Format: Paperback, 44 pages, 64 photographs and maps.
Price: £8.00
This new book contains hitherto unpublished photographs of the Lampeter and Aberayron lines shortly before closure to traffic in the mid-1960s. It is written by a former civil servant and diplomat, David Gowan, and the photographs are by his godfather, Vernon Parry. Both men knew the Teifi Valley area well, and the book is an affectionate testament to the railways of Cardiganshire in the last days of steam before the fall of the Beeching axe.
A reviewer has commented: Apart from its historical value, Quiet between Trains is quite possibly the most charming railway book of the year and is highly recommended.
Gorffennaf 2023
Gwyl Fwyd Llambed 2023

Hyfryd i weld Elin Jones AS a actores Cymraeg Gillian Elisa yn y Gwyl Fwyd eleni.
Medi 2023
Cyfarfod gyda Natasha Asghar MS

Cyfarfod gyda Natasha Asghar MS ar Teams
Llefarydd yr Wrthblaid dros Drafnidiaeth yn y Senedd
Medi 2023
Taith Cerdded Elfed

Ar ddiwedd mis Medi, cerddodd Cynghorydd Gogledd Cymru Elfed ap Eilwyn y 206 milltir o Fangor i Gaerdydd i roi cyhoeddusrwydd i Ddeiseb yn galw am ailagor rheilffyrdd yng Ngorllewin Cymru. Cyfarfuwyd ag ef ar risiau’r Senedd yng Nghaerdydd gan aelodau’r Pwyllgor Deisebau a dderbyniodd y Ddeiseb yn ffurfiol, a oedd yn cynnwys cyfanswm rhyfeddol o 12,916 o lofnodion.
Trafodwyd hyn wedyn gan y Pwyllgor Deisebau a chytunwyd y dylid ei drafod yn siambr lawn y Senedd.
Hydref 2023
Cyfarfod gyda Delyth Jewell MS

/ Cyfarfod gyda Delyth Jewell MS dros Teams