Datganiadau i’r Wasg

Ymgyrch rheilffordd yn y seithfed nef wrth i raglen ddogfen deledu newydd deithio fyny fry i archwilio’r rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin

Bydd rhaglen ddogfen yn edrych o’r newydd ar olion y rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin, gan addo golygfeydd bythgofiadwy o reilffordd fu unwaith yn cysylltu gogledd a de Cymru yn uniongyrchol ac a gaeodd i deithwyr 60 mlynedd yn ôl.

Mae ‘Abandoned Railways from Above’ yn gyfres newydd gan Channel 4 sy’n dilyn trywydd nifer o reilffyrdd caeedig yn y DU, gan fapio hen lwybrau yn eu cyflwr presennol ac archwilio’r ardaloedd cyfagos.

Mae’r bedwaredd raglen yn y gyfres yn ymweld â gwahanol safleoedd diddorol ar hyd yr hen reilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin, gan gynnwys siediau gwaith Rheilffordd Cwm Rheidol, Plasty Trawscoed, Abaty Ystrad Fflur, hen hufenfa Pont Llanio, melin wlân wedi’i hadfer yng Nghynwyl Elfed, yn ogystal â Rheilffordd Stêm Gwili.

Mae Traws Link Cymru wedi bod yn ymgyrchu dros ailgyflwyno’r lein ers dros ddegawd, ac yn y cyfnod hwnnw cyhoeddwyd astudiaeth gwmpasu ac astudiaeth ddichonoldeb lawn gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd y Cadeirydd Mike Walker, “Ni allem fod yn fwy diolchgar i Channel 4 am ddewis  y lein hon yn eu cyfres newydd. Mae’r ffilm yn arddangos yn glir pa mor hyfryd oedd y rheilffordd o Aberystwyth i Gaerfyrddin, ac er gwaethaf ein hymdrechion gorau i ffilmio’r lein o’r  awyr gan ddefnyddio ein drôn ein hunain, mae ffotograffiaeth broffesiynol y tîm cynhyrchu wedi ein gadael yn gegrwth.

“Dyma’r rhaglen ddogfen fwyaf cynhwysfawr a gynhyrchwyd erioed ar y rheilffordd, gan gyfuno darnau o ffilm dopograffig â chyfraniadau gan gyn-staff y rheilffordd, haneswyr a pherchnogion busnesau lleol.

“Bydd gwylwyr yn gallu gweld drostynt eu hunain pa mor hanfodol – ac ymarferol – fyddai ailagor y lein yma. Ar ôl unarddeg mlynedd o ymgyrchu, dyw’r trên nesaf sy’n gadael Aberystwyth i Gaerfyrddin erioed wedi teimlo’n agosach.”

Ychwanegodd aelod o bwyllgor TLC a chyn-faer Aberystwyth, Dylan Wilson-Lewis, a gyfwelwyd yn y rhaglen ddogfen, “Roedd yn fraint cael bod yn rhan o’r rhaglen, ac roedd cael cerdded drwy dwnnel Pencader yn brofiad fydd yn aros yn y cof am byth.”

Darlledir ‘Abandoned Railways from Above: Aberystwyth to Carmarthen’ ar Channel 4 nos Sadwrn, 12 Hydref am 20:20.

DIWEDD.

DADL AR REILFFYRDD CYMRU YN SYMUD I’R SENEDD

MAE grŵp sy’n galw am ail-agor rheilffyrdd yng Nghymru wedi croesawu’r ffaith y bydd eu hymgyrch nawr yn cael ei drafod gan y Senedd.

Mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Deisebau yn y Senedd ddydd Llun (Mehefin 10, 2024), cytunodd yr aelodau y dylai’r ddeiseb i ailagor hen gysylltiadau rheilffordd rhwng Bangor, Caernarfon ac Afonwen ac Aberystwyth a Chaerfyrddin gael eu trafod mewn dadl lawn ar lawr y Senedd.

Cafodd y ddeiseb ei chyflwyno gan gynghorydd Gwynedd, Elfed Wyn ap Elwyn ar ôl iddi gasglu cyfanswm o 12,936 o lofnodion.

Y llynedd cerddodd Mr ap Elwyn, o Drawsfynydd, sy’n gynghorydd Plaid Cymru Bowydd a Rhiw, Blaenau Ffestiniog, 206 milltir o Fangor i Gaerdydd fel rhan o ymgyrch Traws Link Cymru i adfer ac adeiladu rheilffyrdd newydd.

Roedd y ddeiseb yn galw am:

  • Astudiaeth Gwmpasu a Dichonoldeb ar gyfer Rheilffordd Bangor i Afon Wen.
  • Ymrwymiad i wario unrhyw arian ar gyfer y rheilffyrdd o San Steffan ar adfer y rheilffyrdd.
  • Datblygu glasbrint o’r llwybr rheilffordd rhwng Bangor a Chaerdydd ar y llwybr arfaethedig.
  • Edrych ar lwybrau eraill o fewn Cymru a fyddai’n fuddiol ar lefel genedlaethol a lleol i’w hailagor.

Dywedodd Mike Walker, cadeirydd Traws Link Cymru: “Mae hwn yn gam mawr ymlaen i’r ymgyrch. Ar ben hynny, mae’n galonogol gweld bod astudiaeth ddichonoldeb, fel yr un a gynhaliwyd ar y rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin, bellach yn cael ei chynnal ar y cysylltiad rhwng Afon Wen a Bangor yng ngogledd Cymru.”

Amcangyfrifir y bydd y gost o ailagor y llinellau yn £2bn dros 10 mlynedd.

Er y derbyniwyd bod hwn yn swm mawr, nododd y Pwyllgor fod hwn yn hanner yr arian a oedd yn ddyledus i Gymru o dan fformiwla Barnett yn dilyn terfynu HS2.

Ni roddwyd amserlen ar gyfer y ddadl yn y Senedd, ond roedd disgwyl y gallai hyn ddigwydd yn gynnar yn yr hydref, ac erbyn hynny byddai’r astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer y cyswllt gogleddol wedi’i chwblhau.

Yr awgrym oedd y dylai’r ddadl ddilyn canlyniad yr astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer cysylltiad Gogledd Cymru, ond pe na bai hynny’n digwydd erbyn dechrau’r Hydref, dylai’r ddadl fynd yn ei blaen beth bynnag.

CEFNOGAETH WYCH I YMGYRCH RHEILFFYRDD TRAWS LINK CYMRU YNG NGŴYL FWYD CAERNARFON

DAETH miloedd o bobl i Ŵyl Fwyd Caernarfon ddydd Sadwrn diwethaf – i flasu’r bwydydd a diodydd ac i fwynhau cymdeithasu a’r adloniant.

Roedd yr haul yn gwenu ar y seithfed ŵyl gyda phawb yn mwynhau eu hunain yn yr haul wrth ymweld â’r 180 o stondinau yn cynnig cynnyrch lleol ac yn cynnwys tri llwyfan cerddoriaeth.

Yn newydd eleni roedd yna Bentref Bwyd Môr yng Nghei Llechi ac ardal wedi ei glustnodi’n arbennig ar gyfer teuluoedd dros yr Aber ym Mharc Coed Helen.

Roedd gan ymgyrch trenau Traws Link Cymru stondin yna hefyd. Roedd degau o bobl o bob oedran yn eiddgar i gael gwybodaeth am ein cynlluniau i sicrhau trenau a rheilffyrdd i bob rhan o Gymru gan gynnwys Bangor i Gaernarfon ac Aberystwyth i Gaerfyrddin.

Fe wnaeth llawer o ymwelwyr ddweud eu bod o blaid ein hymgyrch. Eisoes mae dros 20,000 o bobl wedi llofnodi ein deiseb yn gofyn i bwyllgor deisebau Senedd Cymru drafod yr angen dybryd am ddechrau adeiladu rheilffyrdd yn y Gogledd a’r Gorllewin.

Roedd llawer eisiau trafod astudiaeth dichonoldeb a baratowyd gan y peiriannydd a’r arbenigwr trafnidiaeth Bob Saxby, sy’n byw yng Nghaernarfon, fydd o gymorth i sicrhau bod y gwaith ar adeiladu’r rheilffyrdd yn dechrau yn y dyfodol.

Ymysg y gwleidyddion a ddangosodd eu cefnogaeth i’r ymgyrch drwy ymweld ar stondin oedd AS Arfon Siân Gwenllïan, Plaid Cymru ac arweinydd Plaid Cymru yn Senedd San Steffan ac AS Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts.

Pan ofynnodd Traws Link Cymru i bobl sut oedden nhw wedi teithio i Gaernarfon y diwrnod hwnnw – dywedodd y mwyafrif llethol y byddai yn well ganddyn nhw fod wedi teithio gyda thrên yn hytrach na gorfod gyrru car.

CERDDED 230 O FILLTIROEDD O FANGOR I GAERDYDD I BWYSO AM AIL-AGOR LLINELL DRÊN RHWNG DE A GOGLEDD CYMRU

BYDD cynghorydd o Wynedd yn cerdded 230 o filltiroedd o Fangor i Gaerdydd fel rhan o ymgyrch i ail-agor rheilffyrdd rhwng de a gogledd Cymru.

Bydd Elfed Wyn ap Elwyn, 26, o Drawsfynydd, cynghorydd Plaid Cymru dros Bowydd a Rhiw, Blaenau Ffestiniog, yn dilyn coridorau rheilffyrdd Afon Wen, y Cambrian, Aberystwyth i Gaerfyrddin a llinell y Great Western i Gaerdydd.

Bwriad y daith yw codi ymwybyddiaeth o’r angen am well system drafnidiaeth gyhoeddus i uno Cymru ac yn ehangach.

Bydd modd dilyn taith Elfed drwy ddefnyddio map tracio byw Traws Linc Cymru.

Mae Elfed yn aelod o grŵp ymgyrchu Traws Linc Cymru sydd eisiau gweld rhwydwaith trenau trwy Orllewin Cymru i gysylltu cymunedau y de a’r gogledd gyda’i gilydd ac arbed oriau o deithio i bobl sy’n gorfod mynd trwy Loegr ar hyn o bryd.

Bydd Elfed yn dechrau ar ei daith ac yn gadael Bangor fore Sul, Medi 17 ac yn gorffen 10 niwrnod yn ddiweddarach yng Nghaerdydd ar Fedi 27.

Bydd yn cerdded o Fangor i Penrhyndeudraeth (Medi 17), Saib i fynychu cyfarfodydd Cyngor (18), Penrhyndeudraeth i Abermaw 19, Abermaw-Machynlleth 20, Machynlleth-Aberystwyth 21, Aberystwyth-Llanbedr Pont Steffan 22, Llanbedr Pont Steffan-Caerfyrddin 23, Caerfyrddin-Abertawe 24, Abertawe-Penybont-ar-Ogwr 25, Penybont-ar-Ogwr-Penarth 26 a Penarth-Bae Caerdydd, Medi 27.

Meddai Elfed: “Dwi wir isio gweld y rheilffyrdd yn ail-agor achos dwi’n gweld yr angen i blethu’r cymunedau sydd wedi colli cysylltiad a’i gilydd o adeg (toriadau) Beeching.

“Mae rhywun yn meddwl pa mor bell mae cymuned fel Tregaron o Aberystwyth neu Benygroes o Gaernarfon. Dwi yn meddwl fod y cysylltiadau wedi pellhau ers torri’r rheilffyrdd. Mae angen ail-gysylltu cymunedau gwledig Cymreig a fyddai’n ddatblygiad positif i’r economi a’r iaith hefyd.”

Mae Elfed o’r farn y bydde’n bosib i rywun deithio o’r gogledd i Gaerdydd o fewn ychydig oriau – ac yno ac yn ôl yn hawdd o fewn diwrnod yn y dyfodol – o wella’r system rheilffyrdd.

Meddai: “Mae’n hurt bod ni’n gorfod teithio siap C o chwith os ydan ni isio mynd o Fangor i Gaerdydd – a gorfod mynd o Fangor i Loegr ac i lawr y Mers tuag at Gaerdydd. Mae’r sefyllfa yn wallgof.”

Mae Elfed yn briod gyda Anwen ac yn dad i efeilliaid 15 mis oed – Iorwerth Prysor a Gwynant Edw. Meddai: “Yn y dyfodol, dwi isio nhw fedru dal y tren yn Penrhyndeudraeth i fynd i Gaerdydd yn hytrach na gorfod cael car neu os ydyn nhw eisiau mynd i Fangor fod yna drên iddyn nhw.

“Dwi isio datblygu Cymru i fod yn wlad hyderus a llewyrchus i fyw ynddi hi fel ein bod ni yn cysylltu Cymru yn fewnol – yn hytrach na rhyw gwpwrdd dan grisia i San Steffan fel mae ar hyn o bryd.”

Ychwanegodd: “Os ydych chi isio ymuno gyda mi ar y daith, neu’n gallu cynnig lle i mi gael llety am y noson yn ystod fy nhaith byswn yn ddiolchgar iawn!”

Mae 11,447 o bobl eisoes wedi llofnodi deiseb gan Elfed yn galw am ail-agor rheilffyrdd i gysylltu gogledd a de Cymru.

Bydd y ddeiseb yn cael ei chyflwyno i Bwyllgor Deisebau Senedd Cymru ddydd Mercher, Medi 27 – sef y diwrnod y bydd Elfed yn cyrraedd pen ei daith ym Mae Caerdydd.

 

CROESO I’R EISTEDDFOD – I GEIR A BYSIAU’N UNIG

 

BYDD miloedd o bobl yn heidio i Ben Llŷn ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru ddechrau Awst – a’r rhan fwyaf mewn ceir a bysiau.

Y ffaith amdani yw nad oes yna wasanaeth rheilffordd yn bodoli – na hyd yn oed traciau – i gysylltu y rhan fwyaf o bobl dwyrain Cymru gyda dinasoedd, trefi a phentrefi yng Ngorllewin Cymru.

Felly bydd y rhan fwyaf o’r 150,000 o gystadleuwyr ac ymwelwyr fydd yn teithio i bentref bach Boduan, ger Pwllheli, Gwynedd rhwng Awst 5-12, yn gorfod defnyddio ceir, bysus neu dacsis i gyrraedd ac i deithio o amgylch yr ardal.

Yr orsaf drenau agosaf yw Pwllheli (Rheilffordd y Cambrian) a Bangor (prif linell drenau ar hyd gogledd Cymru). Yr unig broblem gyda rheilffyrdd y Cambrian o gyfeiriad Aberystwyth a Machynlleth yw eu bod yn araf iawn.

Mae’n daith o dair awr a hanner o Aberystwyth i Bwllheli ar y tren – rhyw awr a hanner mewn car.

Yn anffodus, nid oes yna dren yn mynd o Fangor i Gaernarfon nac ymlaen i Bwllheli – ac yn sicr d’oes dim cysylltiad i Foduan. Caewyd y lein ym 1972 a hefyd y cysylltiad rhwng Caernarfon i Afon Wen.

Er nad fydd hi’n hawdd i bawb deithio i’r Eisteddfod eleni, cofiwch gefnogi ymgyrch Traws Link Cymru (TLC) i ailgyflwyno cysylltiadau rheilfffordd yng ngorllewin Cymru cyn gynted â phosibl.

 

NODYN I OLYGYDDION: Denodd deiseb ar-lein yn galw am ailagor y rheilffordd o Fangor i Gaernarfon ac ymlaen i Afonwen yn ogystal ag o Aberystwyth i Gaerfyrddin dros 11,000 o lofnodion mewn ychydig fisoedd yn unig.

Nawr bod mwy na 10,000 o lofnodion ar y ddeiseb mae’n debygol o gael ei thrafod yn y Senedd yng Nghaerdydd.

Ni ddangosodd Astudiaeth Dichonoldeb ar gyfer rheilffordd Aberystwyth i Gaerfyrddin, a gwblhawyd yn 2018, unrhyw rwystrau sylweddol i ailagor, a gallai dadl y Senedd arwain at asesiadau dichonoldeb pellach ar gyfer rhannau gogleddol y cyswllt rheilffordd.

Mae ailagor y lein rhwng Bangor a Chaernarfon wedi ei gynnwys yn Strategaeth Trafnidiaeth Cymru ers blynyddoedd lawer. Ac mae achos busnes cryf iawn dros hyn gyda threnau trwodd i Gaernarfon o Faes Awyr Manceinion, Caerdydd a Llundain yn rhoi mynediad hawdd i ymwelwyr â’r ardal a’i statws treftadaeth byd ac i bobl leol deithio i swyddi ar hyd yr arfordir.

Byddai adfer y trac i’r de o Gaernarfon yn gwella mynediad i Benrhyn Llŷn ac Arfordir y Cambrian yn fawr. Byddai teithiau fel Pwllheli i Lundain yn bosibl mewn llai na phedair awr trwy Gaernarfon o gymharu â’r chwe awr presennol trwy Fachynlleth a Birmingham.

Yn yr un modd byddai mynediad i lefydd fel Llanbedr Pont Steffan, Tregaron a Dyffryn Teifi yn llawer cyflymach trwy Abertawe nag sy’n digwydd ar hyn o bryd, gan agor Gorllewin Cymru a gwneud teithiau rhwng Gogledd a De Cymru yn bosibl heb fynd drwy Loegr.

Os hoffai unrhyw un o’ch darllenwyr ymuno â’n hymgyrch, mewngofnodwch i trawslinkcymru.org.uk neu cyfrannwch i’n ymgyrch codi arian torfol https://www.justgiving.com/crowdfunding/trawslinkcymru2 neu ewch i’n dolenni Facebook, Twitter neu Instagram