BYDDAI YMGYRCHYDD YN CERDDED O FANGOR I GAERDYDD ETO I SICRHAU BUDDSODDIAD YN RHEILFFYRDD CYMRU
BYDDAI ymgyrchydd trenau gerddodd 206 o filltiroedd o Fangor i Gaerdydd yn “fwy na hapus” i wneud y daith eto – os byddai’n golygu ail-agor llinellau trên
Llwyddodd Elfed Wyn Ap Elwyn i gwblhau’r daith er gwaetha tywydd stormus a gorfod cael sylw meddygol mewn ysbyty i drin pothelli (blisters) ar ei draed.
Mae Elfed, 26, o Drawsfynydd, Gwynedd, yn aelod o grŵp ymgyrchu Traws Link Cymru (TLC) ac mae dros 12,000 o bobl eisoes wedi llofnodi ei ddeiseb yn galw am ail-agor rheilffyrdd i gysylltu de a gogledd Cymru.
Un o amcanion TLC ydi ail-sefydlu llinellau trên rhwng Bangor-Caernarfon ac Afon Wen a hefyd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin.
Gadawodd Elfed, sy’n briod ac yn dad i ddau o efeilliaid, Fangor fore Sul, Medi 17 a chyrraedd Senedd Cymru, Bae Caerdydd fore Mercher, Medi 27 pan gafodd ei ddeiseb ei chyflwyno ganddo i aelodau o bwyllgor deisebau Senedd Cymru.
Bydd y ddeiseb nawr yn cael ei thrafod gan y pwyllgor er nad oes dyddiad wedi ei benderfynu eto.
Derbyniodd Elfed, sy’n gynghorydd Plaid Cymru Bowydd a Rhiw, Blaenau Ffestiniog, gefnogaeth i’w ymgyrch ar hyd y daith gyda nifer o bobl yn ymuno ag ef dros rannau ohoni.
Yna i’w gyfarch yng Nghaerdydd oedd ei wraig Anwen a’u hefeilliaid 15 mis oed – Iorwerth Prysor a Gwynant Edw – a gweddill ei deulu ynghyd â ffrindiau a swyddogion TLC a gwleidyddion yn cynnwys arweinydd Plaid Cymru, AS Ynys Môn Rhun ap Iorwerth ac aelodau eraill o’r pwyllgor deisebau.
“Gogoneddus, gwefreiddiol ac emosiynol” – dyna sut y disgrifiodd Elfed y croeso a gafodd ym Mae Caerdydd.
Meddai Elfed: “Dwi yn teimlo yn hapus iawn o’i wneud o (y daith). Roedd o yn werth yr holl boen. Er fod fy nghoesau i’n brifo – dwi’n meddwl ei fod o wedi bod yn werth yr holl strygl yn y pendraw ‘de. ‘Dwi yn falch iawn.
“’Dwi yn ddiolchgar i bawb a gerddodd efo mi ar y ffordd.”
Dywedodd fod y gefnogaeth “fendigedig a haelioni pobl jyst yn anhygoel trwy Gymru”.
Meddai: “’’Swn i ddim yn gallu ei wneud o ‘fory yn ‘de – ond oes angen i mi ei wneud o eto i gael y rheilffordd yn ei le – yna, fe faswn i yn fwy na hapus i’w wneud o -os dyna fyddai’r clincher yn golygu fod pethau yn llwyddo felly.
“Tro nesaf fe wna’ i gofio i ymarfer digon o flaen llaw. Oedd fy optimistiaeth i chwara’ teg yn ddigon i gael fi drwodd – ond dydi optimistiaeth ddim yn cadw traed rhywun rhag blistro!”
Roedd TLC wedi llwyddo i osod traciwr ar eu gwefan i alluogi pobl i ddilyn Elfed ar ei daith.
Dywedodd cadeirydd Traws Link Cymru Mike Walker: “Mae taith gerdded Elfed yn gyflawniad gwych. Syniad Elfed ei hun oedd dechrau’r ddeiseb i ail-agor y rheilffyrdd yng Ngorllewin Cymru a dyfodd ar raddfa ryfeddol unwaith iddi gael ei lansio. Rwy’n amau bod hyd yn oed Elfed ei hun wedi ei synnu (a’i foddhau) gan ymateb y cyhoedd. Mae cael dros 12,000 o lofnodion mewn cyfnod cymharol fyr yn anghyffredin, ond mae’n adlewyrchu’r cefnogaeth eang o bob cwr o’r wlad a thu hwnt i adfer y rheilffyrdd hyn.
Meddai Mike: “Roedd taith gerdded Elfed o Fangor i Gaerdydd i hyrwyddo ei ddeiseb yn gamp odidog. Cerddodd dros 200 milltir mewn 10 diwrnod; Nid wyf yn siŵr y gallwn fod wedi gwneud hynny mewn mis! Ac roedd yn hyfryd ei weld yn cael ei aduno gyda’i deulu ar risiau’r Senedd, ac roedd gweld cymaint o Aelodau’r Senedd, ac nid yn unig y Pwyllgor Deisebau, yn dod allan i’w longyfarch ar ei lwyddiant yn galonogol iawn.
Ychwanegodd Mike: “Pe bai’r rheilffyrdd hyn yng Ngorllewin Cymru wedi bod ar agor heddiw, ni fyddent erioed wedi cau. Roedd cyfrifiadau Beeching yn ôl yn y 1960au yn seiliedig ar fesurau economaidd crai, heb unrhyw sylw yn cael ei dalu i ffactorau cymdeithasol, diwylliannol neu ffactorau eraill a fyddai heb os wedi cael eu hystyried heddiw. Nid oedd ‘Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol’ i’w hystyried, ac ni roddwyd unrhyw ystyriaeth ychwaith i gwestiynau cysylltedd yng Nghymru a rhwng Cymru a’r prif ganolfannau i’r dwyrain.
Dywedodd: “Er bod cysylltedd gwell heb os yn bwysig, felly hefyd ffactorau economaidd a diwylliannol. Mae’r rhan a ailagorwyd o linell Waverly rhwng Caeredin a Tweedbank yn yr Alban yn enghraifft wych o’r buddion (mewn twristiaeth, datblygu economaidd, a chynlluniau tai newydd, er enghraifft) a all gronni o reilffordd sydd wedi’i hailagor. Gallai’r un peth fod yn wir yng Ngorllewin Cymru. Byddai mwy o weithgarwch economaidd yn dod gyda gwell cyfathrebu a gynigir gan y rheilffordd, a byddai creu swyddi newydd yn gymhelliant i bobl ifanc aros a gweithio yn yr ardaloedd yn hytrach na mudo allan i chwilio am waith. Byddai hyn, yn ei dro, yn diogelu a hyrwyddo’r Gymraeg yn ardaloedd traddodiadol Cymraeg gorllewin a gogledd-orllewin Cymru.
Meddai Mike: “Mae amcan strategol ehangach ar gyfer ailagor yr hen reilffyrdd hyn. Nid yn unig y byddai rheilffyrdd a ailadeiladwyd yn gwella cysylltedd rhyngranbarthol, gallent ffurfio’r cam cyntaf mewn rhwydwaith trafnidiaeth newydd ar hyd ymylon dwyreiniol Cymru a fyddai’n cysylltu gogledd a de’r wlad heb wyriad tua’r dwyrain i Loegr. Byddai’r Coridor Rheilffyrdd Gorllewinol hwn yn cysylltu ardaloedd diwydiannol de Cymru trwy linell Aberystwyth i Gaerfyrddin, â phentrefi gwledig Cymru, ac yna tua’r gogledd drwy’r cysylltiad a ailagorwyd o Afon Wen â Bangor a gogledd Cymru. Bydd y rheidrwydd strategol o rwymo Cymru gyda’i gilydd fel cenedl gan gynlluniau fel hyn yn dod yn bwysicach fyth wrth i’r goblygiadau o adael yr Undeb Ewropeaidd gael sylw llawn.”
Nodyn i olygyddion:
Mae croeso ichi ffonio Elfed Wyn ap Elwyn ar ebost elfedwynap@gmail.com i drefnu cyfweliad gyda fo.
Capsiynau i’r lluniau: Elfed Wyn Ap Elwyn yng ngorsaf Dinas, Caernarfon ar ddechrau ei daith. (Llun: Hywel Trewyn)
Elfed gyda’i wraig Anwen a’i efeilliaid Iorwerth Prysor a Gwynant Edw, ei chwaer Siân Teleri Jones, a chadeirydd Traws Link Cymru Mike Walker
Llofnodwch yma i ddangos eich cefnogaeth dros gael gwell system reilffordd yng
Nghymru: https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/245416
I gyfrannu at gronfa TLC (ar gyfer adnoddau, costau adroddiadau ac ati) cliciwch
yma: https://www.justgiving.com/crowdfunding/trawslinkcymru2?utm_term=ggz5rNBmy
neu defnyddiwch ein system tecst!
I roi £5 tecstiwch TLCYMRU i 70970*
neu i roi £10 tecstiwch TLCYMRU i 70191*
* Bydd codi arian, taliadau a rhoddion yn cael eu prosesu a’u gweinyddu gan y
Cynllun Ariannu Cenedlaethol (Rhif Elusen: 1149800), sy’n gweithredu fel DONATE.
Codir tâl ar eich cyfradd rhwydwaith safonol am negeseuon testun. Am Delerau ac
Amodau, gweler www.easydonate.org
DIWEDDARIAD Y DEISEB
Daeth y ddeiseb i ben ar 12 Hydref 2023 gyda 12,914 o lofnodion. Cafodd ei ystyried gan Bwyllgor Deisebau Llywodraeth Cymru ar 13 Tachwedd a’i gymeradwyo ar gyfer dadl yn y Senedd.