Hanes y Rheilffyrdd

Hanes y Rheilffordd o Gaerfyrddin i Aberystwyth

Cafodd y cynigion cyntaf ar gyfer rheilffordd yng Ngorllewin Cymru eu gosod allan gan Gwmni Rheilffordd Manceinion ac Aberdaugleddau a amlinellodd, yn 1854, gynllun i sefydlu cyswllt rheilffordd rhwng Manceinion ac Aberdaugleddau. Roedd dociau Lerpwl yn dod yn fwyfwy prysur ac roedd potensial i fanteisio ar borthladd dyfnach yn Ne-orllewin Cymru, wedi’i gysylltu â rheilffordd uniongyrchol i’r gogledd yn obaith deniadol i fasnachwyr a diwydianwyr Swydd Gaerhirfryn.

Yn y cyfamser roedd Rheilffordd De Cymru yn cael ei hadeiladu tua’r gorllewin o Abertawe tuag at Hwlffordd, a chyrhaeddodd Caerfyrddin yn 1859. Bryd hynny, daeth Rheilffordd Caerfyrddin ac Aberteifi i fodolaeth gyda’r nod o gysylltu’r ddwy dref, a gosodwyd cynlluniau ar gyfer datblygu porthladd dwfn yn Aberteifi. Agorwyd y lein tua’r gogledd o Gaerfyrddin i Gynwyl Elfed yn 1860 ac erbyn 1864 roedd wedi cyrraedd Pencader yn gyntaf ac yna Llandysul. Ar hyn o bryd, cymerodd Rheilffordd Manceinion ac Aberdaugleddau yr awenau ac ymestyn y rheilffordd tua’r gogledd drwy Lanbedr Pont Steffan a Ystrad Fflur a gyrhaeddwyd yn 1866. Y bwriad gwreiddiol oedd gyrru’r lein ar draws cefn Mynyddoedd Cambria drwy Langurig a Moat Lane i gysylltu â Rheilffordd y Cambrian a adeiladwyd tua’r gorllewin o’r Amwythig. Adeiladwyd rhannau byr, ond ni chysylltwyd y rhain erioed ac yn y pen draw gadawyd y cynllun oherwydd costau ac anawsterau technegol cynyddol yn y tir mynyddig. Felly trodd y llinell tua’r gogledd-orllewin o Ystrad Fflur tuag at yr arfordir gan gyrraedd Aberystwyth yn 1867, a oedd wedi’i chysylltu â Rheilffordd y Cambrian dair blynedd ynghynt.

 

Yn ei anterth, roedd y rheilffordd yn boblogaidd gyda ffermwyr ar gyfer cludo nwyddau da byw, llaeth a chynhyrchu caws, a pheiriannau fferm. Gellid cludo anifeiliaid yn bell yn gyflym ac yn ddiogel i ateb y galw. Roedd enw da i’r marchnadoedd da byw yn Llanybydder a Llandysul ac roeddent yn ffynnu gydag argaeledd y gwasanaeth trên. Byddai pobl yng nghefn gwlad yn cymudo i Aberystwyth neu Gaerfyrddin i wneud eu siopa. Defnyddiodd darlithwyr yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, y trên yn rheolaidd, a theithiodd darlithwyr o bell i draddodi ar y campws. Ac eto, ni gyflawnodd y rheilffordd erioed ei nod gwreiddiol o gysylltu Manceinion ac Aberdaugleddau, ac aeth y cwmni ei hun i’r derbynnydd yn 1875. Dilynodd cyfnod hir o ansicrwydd, ond cymerwyd y llinell drosodd yn y pen draw gan Reilffordd y Great Western yn 1906.

Caewyd y rheilffordd fesul cam, gan gael ei cholli yn gyntaf o Aberystwyth ac yna tua’r de. Daeth gwasanaethau teithwyr i ben cyn eu hamser ym mis Rhagfyr 1964 pan erydodd difrod llifogydd gan Afon Ystwyth ran fechan o wely’r trac ger Llanilar, ac am gyfnod byr daeth gwasanaethau tua’r gogledd i ben yn Llanbedr Pont Steffan. Ni chafodd y rhan a ddifrodwyd gan lifogydd erioed ei hatgyweirio a, gyda thoriadau Beeching, caewyd y llinell gyfan i deithwyr yn 1965. Fodd bynnag, parhaodd y gwasanaethau cludo nwyddau tan 1970 i’r hufenfa ym Mhont Llanio, ac i hufenfa Felin Fach a Chastellnewydd Emlyn tan 1973. Caewyd y llinell gyfan ym 1973 a chafodd y traciau eu codi ym 1975.

Hanes y Rheilffordd rhwng Afon Wen a Bangor

Yn y gogledd, agorwyd Rheilffordd Sir Gaernarfon sy’n cysylltu Afon Wen, cyffordd ar Reilffordd y Cambrian rhwng Pwllheli a Phorthmadog, i Fangor yn 1862.

Roedd dwy gangen i’r lein, un o Gaernarfon i Lanberis ac ail o Benygroes i Ddyffryn Nantlle. Adeiladwyd y cyntaf gan Reilffordd Caernarfon a Llanberis, tra roedd yr olaf yn rhan o Reilffordd Cul Nantlle a oedd yn rhedeg rhwng Caernarfon a Dyffryn Nantlle, ac a ymgorfforwyd yn Rheilffordd Caernarvonshire. Gweithredwyd y lein yn gyntaf gan Reilffordd Llundain a Gogledd Orllewin Lloegr (LNWR) ac yna gan Reilffordd Llundain, Canolbarth Lloegr a’r Alban (LMS).

Caeodd cangen Llanberis i deithwyr yn 1930, ond rhedodd deithiau haf rhwng 1932 a 1939, ac eto o 1946 hyd 1962. Fel yn achos y rheilffordd o Aberystwyth i Gaerfyrddin, yn y pen draw, dioddefodd y rheilffordd yn sgil toriadau Beeching ac fe’i caewyd o’r diwedd ym mis Rhagfyr 1964. Roedd gwasanaethau teithwyr rhwng Bangor a Chaernarfon yn para tan 1970, ond caewyd y rhan hon hefyd yn y pen draw ym 1972. Fodd bynnag, yn 1997 ymgorfforwyd rhan o’r rheilffordd wreiddiol o Gaernarfon i Ddinas i Reilffordd cul Ucheldir Cymru wedi’i hailagor fel rhan o gam cyntaf yr ailddatblygiad hwnnw. Cwblhawyd y llinell adferedig dros y pellter cyfan rhwng Caernarfon a Phorthmadog yn 2011.

Oriel Luniau